SL(6)213 – Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022

Cefndir a Diben

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg ("safonau"). Mae'r safonau hyn yn disodli'r cynlluniau iaith Gymraeg a ddarperir ar eu cyfer gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) (“y Rheoliadau”) yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau; safonau llunio polisi; safonau gweithredu; a safonau cadw cofnodion. Mae'r Rheoliadau yn gwneud y safonau yn benodol gymwys i berson a restrir yn Atodlen 6 (“y cyrff”). Awdurdodir Comisiynydd y Gymraeg i roi hysbysiad cydymffurfio i’r cyrff hynny mewn perthynas â’r safonau a bennir, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol a nodir yn rheoliad 3(2). Y cyrff hynny yw:

·         Y Cyngor Ceiropractig Cyffredinol

·         Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol

·         Y Cyngor Meddygol Cyffredinol

·         Y Cyngor Optegol Cyffredinol

·         Y Cyngor Osteopathig Cyffredinol

·         Y Cyngor Fferylliaeth Cyffredinol

·         Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal

·         Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth

·         Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn dilyn Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 (“Rheoliadau 2018”), a oedd yn pennu safonau mewn perthynas ag ymddygiad Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, Cynghorau Iechyd Cymuned a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru. Fel arfer mae rhif yn enw un o gyfres o Offerynnau Statudol yn cyfeirio at y nifer a wnaed yn y flwyddyn benodol. Yn yr achos hwn mae’r rhif yn cyfeirio at y gyfres gyfan o Reoliadau Safonau, sy’n parhau o Reoliadau 2018, yn yr un modd ag y mae gorchmynion cychwyn wedi’u rhifo.

Mae'r Rheoliadau hyn yn defnyddio'r wyddor Gymraeg yn y fersiwn Gymraeg a'r fersiwn Saesneg, oherwydd natur a phwnc y Rheoliadau. Mae’r arddull hon yn wahanol i’r arddull rifo arferol a fabwysiadwyd mewn is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru.

Cynhaliodd Gweinidogion Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ar Reoliadau drafft Safonau’r Gymraeg rhwng 16 Mawrth 2020 a 2 Hydref 2020. Yn sgil y pandemig Covid, estynnwyd yr ymgynghoriad fel bod pawb sydd â diddordeb yn y Rheoliadau drafft yn cael cyfle i rannu eu barn. Daw’r Rheoliadau i rym ar 31 Hydref 2022, os yw’r Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.

Y weithdrefn

Cadarnhaol Drafft

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Cyflwynir pob Atodlen gan reoliad penodol, ac mae pob Atodlen yn cyfeirio’n ôl at y rheoliad penodol hwnnw. Fodd bynnag, mae’r Atodlenni i’r Rheoliadau hyn yn cyfeirio’n ôl at y rheoliadau anghywir.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

21 Mehefin 2022